Tir Comin Uwch Gwyrfai

Mae Comin Uwch Gwyrfai yn ardal 1012 hectar (2,500 acer) o dir uchel sydd wedi ei gofrestru fel comin yn unol â’r Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965. Cyfeiriwyd ato fel CL16 yng Nghofrestr Tiroedd Comin, ac mae’n ymestyn dros blwyfi Llanwnda, Llandwrog a Betws Garmon, tua saith milltir o Gaernarfon yng Ngwynedd. Mae rhan o’r ardal, sef Moel Tryfan, wedi ei restru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) o dan Adran 28 Deddf Bywyd Gwyllt a chefn Gwlad 1981, ac mae peth o’r tir yn gorwedd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.

Y bwriad yn y tudalen hwn yw egluro tipyn am dir comin, a thrafod y deddfau gwlad hyn sydd yn ymwneud â thiroedd comin, a Chomin Uwch Gwyrfai yn benodol.

Mae Comin Uwch Gwyrfai yn hybu’r economi leol gan gyfrannu at fywoliaeth y rhai â hawliau pori sydd yn troi stoc ar y Comin; yn gefndir arbennig i’r ardaloedd godidog a phoblogaidd sydd yn denu ymwelwyr; yn leoliad i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; ac yn bwysig i’n hanes a’n treftadaeth.

Mae’r unigolion sy’n parhau i bori’r Comin yn cynnal traddodiad sy’n bodoli ers cenhedloedd; traddodiad arbennig o bwysig yn yr ucheldiroedd ble mae’r Comin yn allweddol i’r economi amaethyddol leol. Mae’r traddodiad o bori a llosgi yn eu tro yn atal y Comin rhag tyfu’n wyllt.


 

Tir Comin
Mae’r tir comin yn eiddo preifat, boed y perchennog yn unigolyn neu’n gorfforaeth. Mae llawer o diroedd comin yn eiddo i awdurdodau lleol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chyrff eraill er budd y cyhoedd. Mae rhan sylweddol o Gomin Uwch Gwyrfai yn eiddo i’r Goron, ac mae rhan fawr arall ohono yn eiddo i Caernarvonshire Slate Quarries Company Ltd, gydag ambell bwt o’r Comin yn eiddo i unigolion.


 

Deddf Cofrestru Tir Comin 1965
Y mae Deddf Tir Comin 1965 yn dweud bod rhaid cofrestru:

  • a. Tiroedd comin.
  • b. Hawliau comin.
  • c. Perchnogion y tir.

Cyngor Gwynedd sydd yn cynnal a chadw Cofrestr Comin Uwch Gwyrfai (CL16). Dyma enghraifft o Gofrestr:

Entry Applicant Applicant’s Address Rights Attached land
230 Mr Thomas Thomas Sycharth, Llandwrog Uchaf Grazing rights for 60 sheep, 6 cattle and 6 ponies. Sycharth,

Llandwrog Uchaf.

231 Mrs Mair Puw Garth Celyn

Betws Garmon

Grazing rights for 3 cattle. Aberffraw,

Carmel.

 

232 Mr Evan Evans 12, Ble Mae’r Gorwel,

Y Bala

Grazing rights for 12 sheep. RIGHT in Gross

Mae Thomas Thomas yn byw yn Sycharth, Llandwrog Uchaf, ac y mae ganddo’r hawl i roi trigain o ddefaid, chwe buwch a chwe phoni ar Gomin Uwch Gwyrfai. Yn yr achos hwn, mae’r hawliau pori ynghlwm â’i gartref, Sycharth. Mae Mair Puw yn byw yng Ngarth Celyn, Betws Garmon, ond mae ei hawliau pori hi yn gysylltiedig â’r tyddyn o’r enw Aberffraw. Mae Evan Evans yn byw yn Bala, ond eto mae ganddo hawl i bori deuddeng dafad ar Gomin Uwch Gwyrfai sydd ddim yn gysylltiedig ag unrhyw dir; gelwir hyn “Rights in Gross”.


 

Deddf Tir Comin 2006
Nod Deddf Tir Comin 2006 yw:
a. Diogelu tir comin rhag cael ei ddatblygu.
b. Rheoli tir comin yn fwy cynaliadwy.
c. Gwarchod y tir comin yn well rhag esgeulustod a chamdriniaeth.
ch. Moderneiddio’r broses o gofrestru tir comin a meysydd i sicrhau y caiff pob un ohonynt eu gwarchodd yn yr un ffordd.

Gall unrhyw un fod yn berchen ar dir comin. Gellir ei brynu a’i werthu fel unrhyw dir arall; serch hynny, mae’n wahanol i diroedd eraill oherwydd:
a. Mae tir comin fel rheol yn cael ei gofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 (nid oes hawliau comin ar bob tir comin cofrestredig).
b. Mae’n bosibl fod hawliau mynediad i’r cyhoedd arno neu mae hawl gan y cyhoedd i’w ddefnyddio.
c. Mae’n cael ei ddiogelu o dan Ddeddf 1965 neu ddeddfwriaeth arall.

Mae tir comin Cymru yn gallu cael ei gam-drin yn hawdd a’i lyncu a’i ddatblygu heb ganiatâd. O dan Ddeddf Tir Comin 2006, cyflwynwyd mesurau newydd a haws eu deall i ddiogelu tiroedd comin rhag eu llyncu a chynnal datblygiadau heb awdurdod arnynt.


Caniatad i Wneud Gwaith ar Dir Comin

O dan Adran 38 o Ddeddf Tir Comin 2006, mae angen caniatâd i wneud unrhyw waith ar dir comin sy’n cyfyngu ar y mynediad at y tir hwnnw neu drosto. Nid oes gwahaniaeth pwy sy’n cynnig gwneud y gwaith – y perchennog neu rywun sydd â hawliau pori ag yn y blaen – mae’n rhaid cael caniatâd arnynt. Gall fod angen caniatâd arall hefyd h.y. caniatâd cynllunio neu gymeradwyo rheoliadau adeiladu.

Arolygiaeth Gynllunio Cymru sy’n gyfrifol am benderfynu ar geisiadau o dan Adran 38 o’r Ddeddf sy’n ymwneud â thiroedd comin. Yn gyffredinol, mae Gweinidogion Cymru yn gorfod ystyried unrhyw waith cyfyngedig ar dir comin cofrestredig.

Mae gwaith cyfyngedig yn cynnwys y canlynol:
a. Gwaith sy’n atal neu’n rhwystro mynediad at y tir neu drosto.
b. Gwaith codi ffensys, codi adeiladau, cloddio ffosydd.
c. Mae hefyd yn cynnwys defnyddio tarmac neu ddeunyddiau tebyg i roi wyneb newydd i’r tir.


 

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
Mae’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn cyflwyno hawl mynediad newydd i fynydd-dir, gweundir, rhostir a thwyni (a ddisgrifir gyda’i gilydd fel cefn gwlad agored) a thir comin cofrestredig, ar gyfer hamdden awyr agored. O dan y ddeddf, mae hawl mynediad newydd cyhoeddus i dir agored a thir comin, yn amodol ar rai cyfyngiadau diffiniedig cofrestredig.


 

Dyfodol y Cumin
Gall ddyfodol y Comin, fel y mae, fod yn y fantol heb rywfodd i gadw’r stoc ar y Comin. Mae’r Comin fel y mae o heddiw oherwydd traddodiad y Porwyr i’w warchod drwy bori a llosgi. Gyda’r oes, y mae natur amaethyddiaeth wedi newid, a phrin yw’r porwyr sydd yn pori’r Comin, ac mae nifer eu defaid yn llai nag y bu. Nid oes ymarfer cynefin fel yr oedd, gyda’r canlyniad bod y defaid yn fwy tebygol o chwilio am borfa fras yn y pentrefi, gan ostwng eu niferoedd ar y Comin, ble mae eu hangen.

Mae’r bobl leol yn cwyno’n gyson am ddefaid a gwartheg yn eu pentrefi, ac eto ‘does fawr ddim gall y Porwyr wneud i leihau’r broblem heb rywfodd i atal stoc rhag crwydro o’r Comin. Rhowch ar ben hyn i gyd y perygl o golli anifeiliaid oherwydd damweiniau ar y ffyrdd, prisiau isel a rheolau yn cynyddu, mae’n wir debygol i’r stoc ddiflannu oddi ar y Comin yn gyfan gwbl.

Oes bosib cynnal a chadw’r Comin heb draddodiad y Porwyr? Nid oes modd defnyddio peiriannau i atal gryg ac eithin ar Gomin Uwch Gwyrfai oherwydd ei natur greigiog. Nid yw llosgi ar ei ben ei hun yn foddhaol oherwydd nid yw’n gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau llystyfiant a rhywogaethau. Os yw llystyfiant a rhywogaethau am ffynnu, yn ddelfrydol, rhaid cael cymysgedd o geffylau, gwartheg a defaid i bori’r Comin. Er ceffylau a gwartheg sydd orau i’r Comin, anodd eu cadw rhag crwydro. Gosodwyd nifer o ridiau gwartheg i atal anifeiliaid rhag crwydro i’r pentrefi, ond nid yw’r gadwyn yn gyflawn hyd yma.